OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2019
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (O.S. 2018/1173 (Cy. 237)) (“Gorchymyn 2018”). Mae’n mewnosod tri chorff newydd yn y rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i Orchymyn 2018. Y cyrff hyn yw Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac International Business Wales Limited.
Effaith y diwygiad hwn yw y bydd yr adnoddau y disgwylir i’r cyrff a restrir uchod eu defnyddio yn cael eu cynnwys o fewn Cynnig Cyllidebol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2019 Rhif (Cy. )
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2019
Gwnaed 27 Tachwedd 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Tachwedd 2019
Yn dod i rym 1 Ionawr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([1]).
Yn unol ag adran 126A(4) a (6) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys, pan feddyliant fod hynny’n briodol, ac mae’r Trysorlys wedi cydsynio i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig)
(Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2020.
Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018
2.—(1)(1) Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006
(Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018([2]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
International Business Wales Limited.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2019